Hafan


Gafael Tir sioe sy’n adrodd stori hawliau tir a phrotest yng Nghymru.

“Y cam cyntaf at wrthdystio yw gwers hanes; dim gwers sydd wedi ysgrifennu ar ein cyfer, ond un yr ydym yn ysgrifennu ein hunain”Professor Simon Critchley, The New School

Mae’r sioe yn dilyn hynt a helynt y werin a’u brwydr dros fywyd gwell. Adroddir eu straeon i gyfeiliant hen faledi a chaneuon, a chawn glywed am frenhinoedd, ffermwyr yn croeswisgo, pregethwyr radical, gweithwyr tir ac undebau. Dyma fil o flynyddoedd o hanes wedi ei wasgu i mewn i un perfformiad. Ynghyd â thynnu ar gelfyddydau gwerin Cymru, mae’r sioe’n cyffwrdd ar wleidyddiaeth, hawliau dynol, rhyddid meddwl a mynegiant, yr hawl i wrthdystio a hanes democratiaeth ym Mhrydain.

“10 allan o 10” – Daily Post

“Harmonïau gwefreiddiol, croes-wisgo, beirdd yn taro ffonau ac actio’n wael, tra fy mod i’n dysgu am fil o flynyddoedd o hanes Cymru. Nes i ddim difaru am un eiliad teithio o Lundain i’r Fenni i weld Gafael Tir.”

“Perfformiad atyniadol, emosiynol sydd yn goleuo yn hanesyddol. Maent yn gweu comedi a thrasiedi yn gynnil – fel beirdd yr oesoedd cynt rwy’n dyfalu. Mae wir yn teimlo fel mynd ar daith – trwy amser ac yn ôl i wreiddiau’r tensiynau rhwng y bendefigaeth a’r werin. Mae angen i’r hanes yma gael llais gan ei fod mor bwysig i ni gyd . Rwyf wedi gweld y sioe ddwywaith ac rwy’n siwr o’i gweld eto!”