Ynghylch


Perfformwyr presennol Gafael Tir yw Owen Shiers, Gwilym Morus-Baird a Bethan Lloyd

Mae’r cynhyrchiad yn dilyn ar yr un syniad â Three Acres and a Cow, sioe sy’n archwilio hanes hawliau tir a gwrthdystio yn Lloegr. Mae sylfaenydd Three Acres, Robin Grey, hefyd wedi bod yn gweithio’n agos â ni, yn rhannu ei brofiad amhrisiadwy, ei angerdd a’i arbenigedd.

Gwilym Morus-Baird

Gwilym Morus-Baird

Aeth Gwilym Morus-Baird i’r coleg yn 2002 i astudio llenyddiaeth Gymraeg a gadael yn 2012 gyda doethuriaeth. Ers 2014 mae wedi bod yn cyflawni comisiynau creadigol a rhedeg cyrsiau ar lein ar chwedloniaeth Gymraeg.

Ers 2005 mae wedi rhyddhau sawl albwm o gerddoriaeth, ar ben ei hun a gyda’r band Drymbago. Mae hefyd wedi cyd-weithio gyda cherddorion o Balesteina ac India. Mae ei gerddoriaeth ar gael ar wefan gwilmor.com.

Ar y cyd gydag aelodau eraill o’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg, mae’n un o sylfaenwyr Eos – Asiantaeth Hawliau Darlledu Cymru.

welsh folk

Owen Shiers

Magwyd Owen ar aelwyd gerddorol Gymreig – o’r alawon swynol a grwydrai o weithdy telynau ei Dad i fywyd ysgol a gwyliau megis yr Eisteddfod a’r Cnapan.

Ers graddio o Brifysgol Caerfaddon, mae Owen wedi trafod ei sgiliau fel cerddor, cyfansoddwr a thechnegydd sain ar draws nifer o brosiectau. Mae ei gyfansoddiadau wedi ymddangos ar BBC, CNN a Sianel 4 ac y mae hefyd wedi teithio ar draws y byd gydag artistiaid megis Cimarron, Asere a Toto la Momposina. Bu hefyd yn gweithio yn stiwdio ‘Real World’.

Yn ddiweddar mae Owen wedi bod yn dychwelyd i’w wreiddiau, wrth drochi ei hynan yn ei ddiwylliant lleol a chwblhau ysgoloriaeth gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Gerald Finzi i ymwchwilio cerddoriaeth a straeon colledig Ceredigion. Mae’r deunydd canlyniadol wedi ffurfio seiliau ei brosiect ‘Cynefin‘ sydd wedi dwyn ffrwrth gyda’i albwm ‘Dilyn Afon’. Cafodd yr albwm ei enwebu ar gyfer albwm y flwyddyn yn Eisteddfod 2020.

Bethan Lloyd