Hafan

Gafael Tir cyfres ar-lein sy’n adrodd stori hawliau tir a phrotest yng Nghymru.

CLICIWCH FAN HYN AR GYFER TOCYNNAU PENNOD 3 – DŴR A THÂN

“Y cam cyntaf at wrthdystio yw gwers hanes; dim gwers sydd wedi ysgrifennu ar ein cyfer, ond un yr ydym yn ysgrifennu ein hunain”Professor Simon Critchley, The New School

Mae’r sioe yn dilyn hynt a helynt y werin a’u brwydr dros fywyd gwell. Adroddir eu straeon i gyfeiliant hen faledi a chaneuon, a chawn glywed am frenhinoedd, ffermwyr yn croeswisgo, pregethwyr radical, gweithwyr tir ac undebau. Dyma fil o flynyddoedd o hanes wedi ei wasgu i mewn i 4 pennod ar-lein. Ynghyd â thynnu ar gelfyddydau gwerin Cymru, mae’r sioe’n cyffwrdd ar wleidyddiaeth, hawliau dynol, rhyddid meddwl a mynegiant, yr hawl i wrthdystio a hanes democratiaeth ym Mhrydain.

Mae Pennod 1 (ar gael nawr fel recordiad) yn cychwyn mil o flynyddoedd yn ôl, ac yn adrodd hanes y taeogion, gweithwyr tir Cymru’r Oesoedd Canol a ddiogelodd barhad i’w diwylliant oherwydd eu gwytnwch rhyfeddol.
 
Mae Pennod 2 (14.11) yn archwilio’r chwyldro diwydiannol a stori undebau, allfudo, cau’r tiroedd comin a gafael gadarn y werin ar eu hiaith a’u diwylliant.
 
Mae Pennod 3 (28.11) yn adrodd hanes Cymru’r 20fed ganrif, gan gynnwys dwyn tiroedd gan y llywodraeth, y mudiad heddwch, pleidlais menywod a’r Tywysog Charles!
 
Mae Pennod 4 (12.12) yn bwrw golwg ar yr oes sydd ohoni a’r dyfodol, gan gynnwys cynulliad Cymru, amaethyddiaeth, datblygu cynaliadwy a pham y byddwn yn adeiladu wal o amgylch Aberystwyth. . .

“10 allan o 10” – Daily Post

“Dau ddyn yn canu harmonïau gwefreiddiol, yn gwisgo lan fel menywod, taro ffonau ac actio’n wael, tra fy mod i’n dysgu am fil o flynyddoedd o hanes Cymru. Nes i ddim difaru am un eiliad teithio o Lundain i’r Fenni i weld Gafael Tir.”

“Roedd perfformiad Gwilym ac Owen yn atyniadol, yn emosiynol ac yn goleuo yn hanesyddol. Maent yn gweu comedi a thrasiedi yn gynnil – fel beirdd yr oesoedd cynt rwy’n dyfalu. Mae wir yn teimlo fel mynd ar daith – trwy amser ac yn ôl i wreiddiau’r tensiynau rhwng y bendefigaeth a’r werin. Mae angen i’r hanes yma gael llais gan ei fod mor bwysig i ni gyd . Rwyf wedi gweld y sioe ddwywaith ac rwy’n siwr o’i gweld eto!”