Gafael Tir – Pennod 1 (Cymraeg)

Gafael Tir – Pennod 1 (Cymraeg)

Details
Date:

Hydref 31

Time:

08:00 pm – 09:30 pm

Click to Register: https://www.eventbrite.co.uk/e/gafael-tir-pennod-1-cymraeg-tickets-124138001103
Organizer

Gwilym Morus-Baird

Website: https://www.eventbrite.co.uk/o/gwilym-morus-baird-30480935364
Sioe ar-lein sy’n adrodd stori hawliau tir a phrotest yng Nghymru.

Mae’r sioe yn dilyn hynt a helynt y werin a’u brwydr dros fywyd gwell. Adroddir eu straeon i gyfeiliant hen faledi a chaneuon, a chawn glywed am frenhinoedd, ffermwyr yn croeswisgo, pregethwyr radical, gweithwyr tir ac undebau. Dyma fil o flynyddoedd o hanes wedi ei wasgu i mewn i 4 pennod ar-lein. Ynghyd â thynnu ar gelfyddydau gwerin Cymru, mae’r sioe’n cyffwrdd ar wleidyddiaeth, hawliau dynol, rhyddid meddwl a mynegiant, yr hawl i wrthdystio a hanes democratiaeth ym Mhrydain.

Mae’r bennod gyntaf hon yn cychwyn fil o flynyddoedd yn ôl, ac yn adrodd stori’r taeogion, gweithwyr tir yr Oesoedd Canol a’u gwytnwch rhyfeddol a ddiogelodd eu diwylliant am ganrifoedd. Mae pob pennod yn gorffen gyda sesiwn holi-ac-ateb gyda’r gynulleidfa.


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.